Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Unigolyn
1. Egwyddorion cyffredinol y Bil
1.1 A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?
Yn rhannol
1.2 Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)
Mae'r Bil yn ei ffurf bresennol yn gwneud Saesneg yn elfen orfodol o'r cwricwlwm o 4oed, gyda'r posibilrwydd i gyrff llywodraethu ysgolion "optio allan"fesul un . Felly Saesneg bydd yr iaith swyddogol ymhob ysgol. Mae hyn yn mynd yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth o weithredu un continwwm dysgu'r Gymraeg a'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr .Mae'n golygu bydd modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethol a bydd yn rhwystro felly unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a'r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg.
1.3 A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Does dim angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg. Mae sicrwydd bydd Saesneg yn cael ei dysgu yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol. Mae'r Saesneg yn hollbresennol yn bywydau ein plant heddiw; y Gymraeg sydd eisiau cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.
2. Gweithredu’r Bil
2.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Mae'r cynnig o "optio mewn" i'r cyfnod trochi yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau trochi, sydd mor allweddol i lwyddiant addysg Gymraeg, ac yn peryglu eu parhad ar draws y wlad.
2.2 A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Nac ydy , nid yw'r Llywodraeth wedi cynnig unrhyw dystoliaeth na chyfiawnhad dros wneud Saesneg yn orfodol.
3. Canlyniadau anfwriadol
3.1 A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
O ganlynliad i'r Bil, bydd miloedd o blant yn colli'r siawns i ddod yn rhugl yn y Gymraeg cyn bod nhw'n troi yn 7 oed, felly bydd dyfodol yr iaith mwy bregus byth !
4. Goblygiadau ariannol
4.1 A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
5. Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth
5.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)
-
6. Ystyriaethau eraill
6.1 A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)
Mae'n bwysig iawn bod plant Cymru yn dysgu hanes eu ardal lleol a hanes Cymru gyfan , er mwyn cael hyder yn eu gwreiddiau a nabod eu hunain fel dinasyddion balch Cymru.